Call us: 0845 077 7758
9am - 6pm Mon - Fri
Chwilio yn ôl Rhanbarth
Cliciwch ar ranbarth isod i ddod hyd i gewri

north wales

giants of culture and heritage

Owain GlyndwrMae Gogledd Cymru yn llawn cewri. Yn wir, maent i'w canfod ym mhob twll a chornel yno. Unwaith dros y ffin gallwch groesi pont ddwr anferth Pontcysyllte - pont ddwr fwyaf Prydain, a ddyfeisiwyd gan y cawr o beiriannydd Thomas Telford. Gallwch hefyd gwrdd â'n cyndeidiau yn ein cestyll di-rif - y prosiect adeiladu mwyaf uchelgeisiol yn Ewrop yn ystod y Canol Oesoedd (mae cestyll Caernarfon, Harlech, Conwy a Biwmares i gyd yn Fannau Treftadaeth Byd). Beth am fenter adeiladu fodern? Mae un enfawr yn cael ei chyflawni ar hyn o bryd ar ben yr Wyddfa, sef mynydd uchaf Cymru a Lloegr. Enw'r fenter hon yw Hafod Eryri, a phan yn gyflawn, bydd rhywle ar frig y mynydd i chi ymlacio a chynllunio eich taith i lawr.

Nid yw statws cawr wedi ei gyfyngu i bethau mawr yn unig, fodd bynnag. Mae gennym gewri bychain, hefyd. Capel bychan Sant Trillo yn Llandrillo-yn-Rhos, er enghraifft - y capel lleiaf ym Mhrydain. Os hoffech fynd ar bererindod ddiwylliannol, beth am ymweld ag Oriel Ynys Môn i weld y darluniau o Ogledd Cymru gan Kyffin Williams, wrando ar lais gwefreiddiol Bryn Terfel yng Ngwyl y Faenol, neu wylio perfformwyr o fwy na 50 gwlad yn cystadlu yn erbyn ei gilydd bob Gorffennaf yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen?

Menai Suspension BridgeYn Llyfrgell Sant Deiniol ym Mhenarlâg gallwch bori drwy gasgliadau llenyddol Gladstone, y Prif Weinidog Fictoraidd, tra bod cartref plentyndod Lloyd George, y Prif Weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ar agor i'r cyhoedd yn Llanystumdwy ym Mhenrhyn Llyn.

A ydych chi'n hoffi storiâu dychmygol? Os hynny, mae gennym gewri mytholegol hefyd, o storiâu gwerin i storiâu tylwyth teg, gan gynnwys y chwedl am y Tywysog Madog ab Owain yn darganfod America 300 mlynedd cyn Colwmbws!

Beth fyddwch chi'n ei wneud nesaf?

Short Breaks Adventure Golf Walking Movie Map
Events Gardens Attractions Walled Towns Ambassadors