Yma yng Ngogledd Cymru mae cestyll, rhai ohonynt y gorau o'u bath yn y byd, i'w canfod ym mhob twll a chornel. Ychydig dros 700 mlynedd yn ôl, adeiladodd y Brenin Edward I glwstwr ohonynt (gyda help llaw ei bensaer castell Iago San Siôr).
Ar un adeg gwelwyd ymladd a therfysg mawr yn y cestyll hyn, ond bellach mae croeso i oresgynwyr ymweld â nhw. Felly gallwch orymdeithio i Gastell Fflint, castell Cymraeg cyntaf Edward; Dinbych - yn fwy o dref gaerog na chastell; a Rhuddlan - gyda'i borthladd dair milltir o'r arfordir. Mae'r cestyll yng Nghaernarfon, HarlechHarlech, Biwmares a Chonwy â statws mannau Treftadaeth Byd - ymwelwch â nhw i weld pam. A pheidiwch ag anghofio Castell y Waun – yr unig gastell o gyfnod teyrnasiad Edward sy'n dal â rhywun yn byw ynddo heddiw.
Mae gennym gestyll Cymreig hefyd. Adeiladwyd y rhain gan ein Tywysogion Cymreig cynhenid. Cestyll fel Castell Dolwyddelan, sef castell Llywelyn ap Iorwerth, a Chastell Dolbadarn yn Eryri. A Chastell Caergwrle ger Wrecsam – a adeiladwyd gan Dafydd ap Gruffydd. A beth am gerdded yr holl ffordd i fyny i Gastell Dinas Bran ger Llangollen, y castell y methodd Owain Glyndwr â'i gipio yn 1402. Neu fynd ar daith gerdded galed i Gastell y Bere ym Meirionnydd, gyda golygfeydd cyfareddol yn wobr ar ben y daith.
Am weld rhywbeth ychydig yn hyn? Mae Clawdd Offa yn wrthglawdd syth sy'n ymestyn o Sedbury yn y de i Brestatyn yn y gogledd ac yn cymryd rhyw 12 niwrnod i'w gerdded. Os am daith ychydig yn haws, beth am gerdded eich llengoedd i fyny i Gaer Rufeinig Segontiwm yng Nghaernarfon neu at Faddonau Rhufeinig Prestatyn. Neu ar hyd Fryniau Clwyd, i Foel Arthur, a Phen y Cloddiau, un o'r caerau Oes Haearn mwyaf yng Nghymru.
Cysylltiadau generig ar y gwaelod:
www.cadw.wales.gov.uk
www.walledtowns.co.uk
www.attractionsnorthwales.co.uk
www.princesofgwynedd.com
Wedi eu cuddio ar gyrion Prestatyn mae adfeilion bychain ond diddorol baddon Rhufeinig y credir iddynt gael eu defnyddio am oddeutu 40 mlynedd o 120 OC ymlaen.
Mwy...
Sefydlwyd Caer Rufeinig Segontiwm, Caernarfon, yn oddeutu 77 OC a bu catrawd o 1000 o filwyr yn byw yno hyd 394 OC (sef bron i 1000 o flynyddoedd cyn i Gastell Caernarfon gael ei adeiladu).
Mwy...
This attraction is Visitor Attraction Quality Assurance Service (VAQAS) approved.
Castell Dinbych yw un o'r trefi caerog mwyaf a chryfaf yng Nghymru - mae'r porthdy yn unig yn un o'r cadarnaf o'i gyfnod.
Mwy...
This attraction is Visitor Attraction Quality Assurance Service (VAQAS) approved.
Castell Biwmares oedd y castell olaf i gael ei adeiladu gan y Meistr Iago San Siôr ar gyfer y Brenin Edward I.
Mwy...
Adeiladodd Dafydd ap Gruffudd Gastell Caergwrle yng Nghaergwrle ger Wrecsam yn oddeutu 1277.
Mwy...
This attraction is Visitor Attraction Quality Assurance Service (VAQAS) approved.
Daeth Castell Caernarfon yn fyd-enwog yn 1969 yn dilyn arwisgo'r Tywysog Siarl yn Dywysog Cymru.
Mwy...
This attraction is Visitor Attraction Quality Assurance Service (VAQAS) approved.
Mae Castell Conwy Castle yn sefyll ar frigiad creigiog ar lannau'r Afon Conwy. Adeiladwyd ef rhwng 1285 a 1287 gan y Meistr Iago San Siôr ar gyfer Edward I gyda chymorth oddeutu 1500 o weithwyr.
Mwy...
This attraction is Visitor Attraction Quality Assurance Service (VAQAS) approved.
Saif y castell mewn man urddasol a’r nodwedd amlycaf o hyd yw’r porthdy dau dŵr a godwyd gan y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) wedi’i ehangu gan Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn y Llyw olaf) a’i ail-lunio’n ddiweddarach gan Edward I ac Edward II.
Mwy...
Yn uchel ar ben bryn uwchben tref Llangollen saif Castell Dinas Bran, sef castell canoloesol a bryngaer.
Mwy...
Yn uchel uwchben Llyn Padarn yn Eryri saif adfeilion cadarn Castell Dolbadarn. Mae'n debyg iddo gael ei adeiladu gan Llywelyn ab Iorwerth yn y 13eg ganrif. Dominyddir y safle gan orthwr crwn anferth a chadarn yr olwg.
Mwy...
Yng nghanol Eryri, nepell o Fetws y Coed saif gorthwr sgwâr carreg, sef adfeilion unig Castell Dolwyddelan.
Mwy...
Doedd adeiladu castell ddim yn waith hawdd. Cychwynnwyd adeiladu Castell Flint, sef castell cynharaf Edward I yng Nghymru, yn 1277, a threuliodd 3000 o ddynion 9 blynedd yn ei adeiladu.
Mwy...
This attraction is Visitor Attraction Quality Assurance Service (VAQAS) approved.
Cychwynnwyd ar y gwaith adeiladu o Gastell Harlech yn 1283, a gorffennwyd y gwaith erbyn diwedd 1289 (gan gyflogi bron i 950 o ddynion ar ei anterth).
Mwy...
This attraction is Visitor Attraction Quality Assurance Service (VAQAS) approved.
Yn ôl y chwedl, roedd gan y Tywysog Gruffudd ap Llywelyn balas yn Rhuddlan ar un amser.
Mwy...
Mae'n debyg mai'r Tywysog Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) a adeiladodd Castell y Bere yn Ne Gwynedd yn oddeutu 1221.
Mwy...
This attraction is Visitor Attraction Quality Assurance Service (VAQAS) approved.
Bu rhywun yn byw yng Nghastell y Waun ger Wrecsam yn ddi-dor ers ei adeiladu yn 1310.
Mwy...
Gwrthglawdd anferth yn dyddio'n ôl i o gwmpas yr 8fed ganrif yw Clawdd Offa. Mae'n ymestyn o Sedbury yn y de i Brestatyn yn y gogledd, a phan adeiladwyd ef yn gyntaf roedd yn nodi'r ffin rhwng teyrnas Gymreig Powys a theyrnas Angliaidd Mersia.
Mwy...
Ganwyd y Brenin Edward I o Loegr yn 1239, yn fab i'r Brenin Harri III o Loegr ac Elinor o Provence.
Mwy...
Mae Moel Arthur yn un o gyfres o gaerau Oes Haearn a adeiladwyd ar hyd Fryniau Clwyd oddeutu 2500 mlynedd yn ôl.
Mwy...
Penycloddiau (neu Moel y Cloddiau), Sir y Fflint, yw un o'r caerau Oes Haearn mwyaf yng Nghymru.
Mwy...
Heb waith prif saer maen Edward I, Iago San Siôr, ni fyddai'r un o gestyll y brenin wedi eu hadeiladu.
Mwy...